Hysbyseb cynnal a chadw ar Wicifryngau
Appearance
This page is kept for historical interest. Any policies mentioned may be obsolete. (Update on January 22nd, 2013, 20:00 (UTC): Our Operations team considers the migration to be over. Major disruption is no longer expected.) |
Beth sy'n digwydd?
Mae Sefydliad Wicifryngau ar fin symud ei brif wasanaethau i ganolfan ddata newydd yn Virginia, UDA. Bwriad hyn yw gwella dulliau gwaith technegol holl wefannau Wicifryngau, a'u dibynadwyaeth.
Tra'n bod wrthi'n cynnal a chadw, hwyrach y cewch drafferth cysylltu â gwefannau Sefydliad Wicifryngau, gan gynnwys wikipedia.org.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y cyhoeddiad llawn.
Camau i'w cymryd os y cewch drafferth
- Arhoswch ychydig funudau; hwyrach bod y technegwyr eisoes yn gwybod bod problem ac wrthi'n ei datrys. Cyhyd a'ch bod yn gweld y faner cynnal a chadw, mae yna waith cynnal a chadw ar y gweill.
- Ymunwch â'r sianel #wikimedia-tech ar Freenode:
- Os oes cleient IRC gennych, defnyddiwch y cyswllt uniongyrchol hwn: #wikimedia-tech.
- Fel arall, gweler tudalen gymorth IRC neu defnyddiwch lwyfan sgwrsio-we Freenode.
- Os y dowch ar draws rhyw broblem wedi i'r faner cynnal a chadw ddiflannu, byddwch gystal ag anfon adroddiad amdano ar IRC, ynteu ar dudalen sgwrs y dudalen hon, neu ar ein gwefan dilyn hynt bygiau (cyswllt uniongyrchol).
- Os nad ydych yn gyfarwydd ag IRC, na'r wefan dilyn hynt bygiau, na meta-wici, gallwch ofyn cymorth eich cyd-wiciwyr ar dudalen sgwrs eich cymuned wici.
Diolch!