Fundraising 2012/Translation/Donor information pages
Pages for translation: [edit status] | |
Jimmy Appeal (source) |
Published |
Landing Page and Banner messages (source) |
Published |
Donor information pages (source) All languages | Published |
Diddymu neu newid cyfraniadau rheolaidd
Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad at Sefydliad Wicifryngau, a thrwy hynny eich bod yn cefnogi gwybodaeth rydd. Gwyddwn bod amgylchiadau'n gallu newid fel nad oes modd parhau i roi'n rheolaidd. Os ydych am ddiddymu'ch rhodd rheolaidd neu ei newid, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:
PayPal
- Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif PayPal, yna mynd at eich proffil yn "My Account", pwyso ar "Account info" ac yna ar "Preapproved payments".
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin o hynny ymlaen. Cewch ragor o wybodaeth ar PayPal.
- Neu gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau isod ar dalu gyda cherdyn credyd. Ond cofiwch y gallwn ddiddymu rhoddion PayPal ond na allwn eu newid.
Cerdyn credyd
- Anfonwch e-bost (yn Saesneg) at givingwikimedia.org gan nodi'r math o newid yr ydych am ei wneud a chyn gymaint o wybodaeth a allwch ynglŷn â'r rhodd gwreiddiol, megis:
- Y cyfeiriad e-bost yr anfonwyd derbynneb y rhodd iddo
- Yr enw llawn a roddwyd
- Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy ebost pan gaiff y newid ei gwblhau.
Problemau wrth roi
Os ydych yn cael trafferth cyfrannu neu am ofyn cwestiynau, darllenwch ein cwestiynau aml eu gofyn. Os ydych yn petruso o hyd neu am gymorth i ddilyn hynt eich taliad, mae croeso i chi gysylltu â donate@wikimedia.org.
- Ydy'r wefan hon yn ddiogel?
- Mae gwefan rhoi i Sefydliad Wicifryngau yn ddiogel iawn; Verisign Trusted yw sail ei pheirianwaith. Wedi ichi glicio ar faner neu ddilyn gyswllt rhoi, byddwch yn glanio ar dudalen sydd ar wefan ddiogel (https); mae'r holl fanylion a roddir arni yn cael eu hamgryptio a'u trin yn ôl safonau uchaf gwarchod data.
- Nid yw'r dull talu sydd orau gennyf yn cael ei gynnig eto gan Sefydliad Wicifryngau.
- Ymddiheurwn na allwn gynnig eich hoff ddull o dalu ar hyn o bryd; rydym yn gobeithio gallu ychwanegu dulliau eraill o dalu a hynny mewn ehangach ddewis o arian breiniol. Hoffwn wybod felly, pa ddulliau talu a arferir yn bennaf gennych chi a'ch gwlad - mae croeso i chi anfon e-bost o adborth atom, gan nodi eich gwlad a'ch hoff ddull o dalu.
- Byddwn yn ceisio ychwanegu'r opsiynau hyn cyn bo hir. Yn y cyfamser, gallwch edrych ar yr URL sy'n dilyn i gael gwybod am opsiynau eraill y gallant fod o ddefnydd i chi: Moddau rhoi
- Pam y gwrthodwyd fy nhaliad drwy gerdyn credyd neu ddebyd?
- Os gwrthodwyd eich taliad neu os na lwyddoch roi manylion eich cerdyn ar ein tudalen rhoi, a wnewch chi wirio eich cerdyn credyd neu ddebyd am y rhesymau posib sy'n dilyn:
- Rhaid i chi ddefnyddio cerdyn credyd/debyd sydd wedi ei alluogi ar gyfer defnydd rhyngwladol. Ar hyn o bryd ni allwn drin cardiau sydd yn gallu cael eu defnyddio o fewn eu gwlad eu hunain yn unig (fe'i gelwir yn gardiau Gwladol). Byddwch gystal â gofyn i'ch banc eich galluogi i anfon arian dramor.
- Dim ond yn eu gwledydd eu hunain y derbynnir cardiau credyd Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig a Chanada.
- Ni ellir derbyn pob math o Gerdyn Rhithwir ar hyn o bryd. Defnyddir cardiau rhithwir yn aml i brynu ar-lein, er mwyn gwarchod y wybodaeth sensitif ar eich cerdyn blastig. Fodd bynnag, mae ein system prosesu rhoddion yn cael ei chynnal gan gwmniau prosesu proffesiynol, sy'n cydymffurfio â safonau perthnasol, ac mae eich gwybodaeth yn ddiogel iawn. Felly os caiff eich cerdyn rhithwir ei wrthod, defnyddiwch eich cerdyn credyd neu ddebyd arferol os gwelwch yn dda.
- Os ydych yn talu â cherdyn debyd, sylwch fod dewis gennych i lanw'r cod diogelu (C V V) neu beidio. Os nad oes C V V ar eich cerdyn debyd, gallwch adael y blwch hwnnw'n wag.
- Gall eich banc fod wedi atal y taliad dros dro. Mae hyn yn fwy tebyg o ddigwydd y tro cyntaf yr ydych yn cyfrannu at Wicifryngau. Ffoniwch eich banc os gwelwch yn dda, a gofyn iddynt ddad-flocio taliadau i Wicifryngau, er mwyn gallu talu rhoddion i Wicifryngau.
- Pam y cefais nodyn o rybudd neu o wall wrth i mi geisio rhoi?
- Peidiwch â phoeni os y gwelwch nodyn o rybudd neu o wall wrth geisio rhoi. Mwy na thebyg mai'r achos yw bod eich porwr ar ôl yr oes. Diweddarwch eich porwr os gwelwch yn dda, neu defnyddiwch borwr arall. Os bydd y broblem yn parhau, anfonwch e-bost at donate@wikimedia.org
Polisi Ad-dalu
Os ydych am dderbyn ad-daliad o'ch rhodd, am unrhyw reswm, cysylltwch â ni drwy e-bost (yn Saesneg sydd orau) at donate@wikimedia.org. Bydd angen y wybodaeth sy'n dilyn arnom er mwyn gallu gwneud yr ad-daliad:
- Dyddiad rhoi: os ydych am wneud cais am ad-daliad, rhaid ei wneud cyn pen 90 diwrnod wedi'r dyddiad rhoi
- Y swm a roddwyd (Mae rhoddion mawrion sy'n fwy na USD $10,000 yn cael eu trin yn ôl termau'r cytundeb grant perthnasol rhwng y Sefydliad a'r rhoddwr)
- Enw llawn
- Y dull talu a ddefnyddiwyd (cerdyn credyd, trosglwyddiad banc, E-waled, ...)
- Gwlad tarddiad y taliad
- Y rheswm dros ad-dalu
Sylwer nad yw pob dull talu yn cynnal ad-daliad, neu bod ad-daliad yn gorfod cael ei wneud drwy'r un dull (yr un cerdyn) ag a ddefnyddiwyd i dalu. Gan hynny, gall fod angen rhagor o wybodaeth er mwyn cyflawni'r ad-daliad. Caiff pob cais am ad-daliad ei brosesu cyn gynted ag y bod modd, ond mae'r amser prosesu yn amrywio yn ôl dull y taliad.
Rhoddion Cyfatebol
Gallwch o bosib ddyblu neu dreblu eich rhodd i Sefydliad Wicifryngau drwy gynllun Rhoddion Cyfatebol. Mae nifer o gwmnïau yn cefnogi rhoi dyngarol ar ran eu gweithwyr drwy gynnig cynllun rhoi cyfatebol. Gallwch gynyddu gwerth eich rhodd, heb iddo gostio dim i chi, drwy fanteisio ar gynllun rhoi cyfatebol eich cyflogwr. A wnewch chi ofyn i'ch adran Adnoddau Dynol a fyddent yn fodlon rhoi i Sefydliad Wicifryngau yn gyfateb i'ch rhodd eich hunan, os gwelwch yn dda.
Sut mae'r cynllun hwn yn gweithio?
Er bod cynlluniau rhoi cyfatebol yn amrywio o gwmni i gwmni, fel arfer mae'r broses yn un syml iawn:
- Cadarnhewch bod gan eich cyflogwr gynllun rhoi cyfatebol a mynnwch y ffurflenni Rhoddion Cyfatebol gan eich cyflogwr
- Llanwch y ffurflen a'i hanfon at Sefydliad Wicifryngau, i'r cyfeiriad hwn: Wikimedia Foundation, Inc.
P.O. Box 98204
Washington, DC 20090-8204 USA - neu trwy ebost at: matching@wikimedia.org
- Fe fydd Sefydliad Wicifryngau yn gwirio'ch rhodd ac yn anfon y ffurflen yn ôl at eich cyflogwr
- Bydd eich cyflogwr yn anfon rhodd gyfatebol i Sefydliad Wicifryngau
- Dylid anfon rhoddion cyfatebol at:
Yr Ymgyrch Ffederal Gyfun
Mae Sefydliad Wicifryngau ar restr y sefydliadau cenedlaethol/rhyngwladol annibynnol, sef y Rhestr Elusennau a gedwir gan Ymgyrch Ffedral Gyfun (CFC) yr Unol Daleithiau, yn 2011. 61478 yw ein cyfeirnod. 61478.
Sefydliadau sydd wedi cefnogi Sefydliad Wicifryngau drwy haelioni eu gweithwyr
Mae llawer o bobl ynghyd â'u cyflogwyr eisoes wedi rhoi ar y cyd i Sefydliad Wicifryngau. Rydym yn ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth a'u haelioni. Mae rhestr ohonynt yn dilyn, gyda dolenni at wybodaeth am eu cynllun rhoi cyfatebol: