Wikimedia Foundation elections/Board elections/2011/Committee/cy
Cyhoeddwyd canlyniadau'r etholiad ar 17 Mehefin 2011.
Ethol Bwrdd 2011 |
---|
Trefniant |
Mae Pwyllgor Ethol Bwrdd 2011 yn gwneud y trefniadau manwl ar gyfer yr etholiad yn ôl gofynion Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, sydd yn goruchwylio'r gwaith hwnnw. Fe all y Pwyllgor gynnig argymhellion am drefn yr etholiadau i'r Bwrdd.
Aelodaeth
[edit]Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn penodi aelodau'r Pwyllgor i'r perwyl o drefnu etholiad Bwrdd Ymddiriedolwyr Wikimedia 2011. Rhaid i aelodau'r pwyllgor fod yn olygwyr ar un neu ragor o brosiectau Wikimedia, ni allant fod yn aelodau o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr nac yn ymgeiswyr yn yr etholiad, ac ni allant bleidleisio yn yr etholiad.
Y pum aelod a ganlyn, sydd i gyd yn wirfoddolwyr, yw aelodau'r pwyllgor:
Enw | Ieithoedd | Trigfan (cylchfa amser) |
---|---|---|
Abbas Mahmoud | sw, en-3 | Nairobi, Kenya (UTC+3) |
Jon Harald Søby | nb, en-3, sv-3, de-2, da-2, es-1, eo-1, ro-1, sw-1 | Dar es Salaam, Tanzania (UTC+3) |
"Mardetanha" | fa, az, en-3, tr-2, ar-1, mzn-1, glk-1, bqi-1, tk-1, crh-1 | Zanjan, Iran (UTC+3:30) |
"Matanya" | he, en | Israel (UTC+2) |
Ryan Lomonaco | en | Grand Rapids, Michigan, USA (UTC-4) |
Gwaith y Pwyllgor
[edit]Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am drefnu a chynnal ymron pob agwedd o ethol y Bwrdd. Er enghraifft, y Pwyllgor sydd yn trefnu'r math o bleidleisio, meini prawf cael pleidleisio, a meini prawf cael ymgeisio. Y Pwyllgor sy'n drafftio ac yn trefnu holl dudalennau swyddogol yr etholiad ar Meta, yn cadarnhau bod yr ymgeiswyr a'r etholwyr yn ateb y meini prawf, yn archwilio'r pleidleisiau er mwyn sicrhau nad oes pleidleisiau dyblyg i gael neu broblemau eraill, ac yn y blaen.