Wikimedia Community User Group Wales/07082018
Grwp Defnyddwyr Wicimedia Cymru, 7 Awst 2018
[edit]Lleoliad: Indycube, Sgwar Mount Stuart, Bae Caerdydd Amser: 14:00-16:00
Yn mynychu:
- Dafydd Tudur
- Jason Evans
- Robin Owain
- Alwyn ap Huw
- Gareth Morlais
- Carl Morris
- Aaron Morris
- (5 heb eu datgelu)
Ymddiheuriadau:
- Sian EJ
- Dafydd Tomos - yn gweithio y diwrnod hwn.
- (5 heb eu datgelu)
Croeso
[edit]Croesawyd pawb i’r cyfarfod, cyflwynodd pawb eu hunain a derbyniwyd yr ymddiheuriadau.
Llongyfarchwyd Aaron ar enwebiad Wici-Mon fel Partner y Flwyddyn Wikimedia UK. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i’r prosiect.
Llongyfarchwyd Gwenno ac Eiri ar ennill gwobr anrhydeddus Wicimedwyr y Flwyddyn 2018 am eu gwaith yn sefydlu a chynnal gweithgareddau Wici-Caerdydd.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi
[edit]Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod 27 Mawrth yn gywir, a bod pob pwynt gweithredu wedi’i gyflawni heblaw am gyflwyno trefn ffurfiol ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Amcanion y Grwp
[edit]Cynigiwyd y dylid cynnwys cymal yn yr amcanion sy’n cyfleu’r modd y mae’r Grwp Defnyddwyr yn cyfrannu tuag at ddyrchafu Cymru a’r Gymraeg ar lwyfan byd-eang.
Gofynnwyd am addasu’r geiriad, ei rannu gyda’r grwp gyda dyddiad cau ar gyfer sylwadau. Bydd yr amcanion newydd yn cael eu hychwanegu i dudalen y Grwp Defnyddwyr ar Meta, ac yn cael eu hadolygu yn flynyddol.
Arweiniodd hyn at drafodaeth bellach ynglŷn â chyfansoddiad y grwp. Nodwyd bod grwpiau defnyddwyr eraill yn gweithredu mewn amryw o ffyrdd ac ar wahanol lefelau o ffurfioldeb. Os yw’r Grwp Defnyddwyr i sefydlu ei hygrededd yng Nghymru ac o fewn i’r amgylchedd Wici byd-eang, dylid sefydlu trefn ffurfiol. Ffafriwyd trefn ar yr egwyddor bod gan bob cyfrannwr i brosiectau Wicipedia Cymraeg a Chymreig lais yng nghyfeiriad a gweithgareddau’r Grwp.
Bydd y drefn ffurfiol yn cael ei chyflwyno a'i thrafod pan fydd y Grwp cyfarfod nesaf yn yr hydref.
Logo'r Grwp
[edit]Dangoswyd y logos safonol a gynigiwyd, a chafwyd trafodaeth ynglyn â’r buddion o gael logo oedd wedi’i addasu ar y naill law, a chadw at un o’r logos safonol ar y llaw arall. Penderfynwyd defnyddio logo glob safonol gydag enw’r grwp oddi tano (ar yr un model a Sri Lanka).
Cytundeb gyda Wikimedia UK
[edit]Cafwyd crynodeb o’r trafodaethau gyda Wikimedia UK ers cyfarfod diwethaf y Grwp.
Wrth drafod gwaith y Grwp, codwyd cwestiwn ynghylch gweithgareddau yn Saesneg o fewn i Gymru, a phenderfyniad y Grwp yn y cyfarfod blaenorol i ganolbwyntio ar y Gymraeg. Nodwyd y byddai natur gweithgareddau Saesneg yn fwy arbenigol oherwydd maint ac ystod y wybodaeth sydd eisoes ar gael yn Saesneg. Ar yr un pryd, pwysleisiwyd yr angen i gefnogi dysgwyr Cymraeg a rhai nad ydynt yn hyderus yn eu defnydd o’r iaith. Nodwyd nad oedd gweithgaredd, bron, drwy gyfrwng y Saesneg yng Nghymru ac y gellid edrych ar hyn pan fo’n codi.
Bydd y ddogfen yn cael ei rhannu eto gydag aelodau'r Grwp a gwahoddir sylwadau.
Gweithgareddau perthnasol i'r Grwp
[edit]Cyfle i unrhyw un roi cyflwyniad 5 munud anffurfiol ar weithgaredd, prosiect neu syniad.
- Wicipedia i blant? - yn codi o gyflwyniad ar y model Basgeg yn Cwlwm Celtaidd a thrafodaeth ar Twitter 20-07-18
Trafodwyd y syniad o ddatblygu Wicipedia yn arbennig i blant yn seiliedig ar y model Basgeg a gyflwynwyd yn y Cwlwm Celtaidd. Roedd peth pryder y byddai datblygu hwn yn cymryd sylw ac egni oddi wrth ddatblygu’r Wicipedia Cymraeg, a bod angen rhagor o olygyddion i’w wneud yn iawn. Opsiwn arall fyddai nodi ar Wicipedia pa erthyglau (neu gyflwyniadau i erthyglau) sy’n addas i blant. Dau ddatblygiad perthnasol arall yw’r memorandwm sydd wedi’i arwyddo rhwng Cymru a Gwlad y Basg, ac hefyd y gynhadledd addysg fydd yn cael ei chynnal yno ym mis Ebrill. Penderfynwyd ei gyhoeddi ar y Caffi gyda’r nod o gasglu ynghyd yr unigolion sydd a diddordeb mewn datblygu cynnwys/adnodd sy’n addas i blant 8-13 oed.
Yn ystod y drafodaeth hon, nodwyd yr angen am well cydbwysedd rhwng dynion a menywod yng nghyfarfodydd y Grwp Defnyddwyr. Mae nifer o olygyddion Wicipedia yn fenywod, ond nid ydynt yn bresennol yn y cyfarfodydd.
- Datblygu WiciLyfrau Cymraeg https://cy.wikibooks.org/wiki/Hafan
Trafodwyd y syniad o ddatblygu WiciLyfrau (fel cronfa o ganllawiau) a WiciDestun (fel cronfa o ffynonellau craidd). Gwelwyd mwy o botensial yn WiciDestun fel cronfa ar gyfer data craidd, ble gellid cywiro gyda chymorth y dorf. Ar yr un pryd, nodwyd nad oedd Wikisource wedi bod yn ffynnianus iawn, ac mai gwell fyddai canolbwyntio ymdrechion ar brosiectau eraill (Wicipedia, Comin, Wicidata) ar hyn o bryd.
- Diweddariad ar Astudiaeth Achos Chwaraelyfr Impact Europeana yn seiliedig ar gasgliad Portread
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi llwytho tua 4,800 o bortreadau i’r Comin ynghyd â chofnodion Wikidata ar eu cyfer. Mae’r portreadau yn sail i’r astudiaeth achos ar gyfer Chwaraelyfr Impact Europeana, ac mae’r gwaith hwnnw yn parhau.
- Cynhadledd GLAM-Wiki 2018 (Dafydd a Jason)
Bydd Jason a Dafydd yn mynychu cynhadledd GLAM-WIKI 2018 ar 3-5 Tachwedd ac yn trafod defnydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru o brosiectau Wici, a’r buddion sydd wedi dod yn sgil hynny i ddefnyddwyr yn ogystal â’r Llyfrgell ei hun.
- Wici-Môn
Mae’r gwaith llwyddiannus ar Wici-Gwerin a Wici-Hanes yn parhau.
- Wici a’r byd academaidd
Trafodwyd yr angen i godi ymwybyddiaeth o weithgareddau Wici yn y sector addysg uwch. Awgrymwyd y syniad o gynnal digwyddiad penodol, mynychu cynadleddau, ac/neu weithio trwy’r gymuned o lyfrgelloedd addysg uwch. Ar hyn o bryd dim ond Prifysgol Abertawe sy’n defnyddio Dashfwrdd Wicimedia i reoli aseiniadau ar Wicipedia, yng Nghymru. Bydd y Cydymaith cerdd yn cael ei lansio ym Medi - ar drwydded agored, yn dilyn Wicipediwr Preswyl yn y Coleg Cymraeg tua 5 mlynedd yn ôl.
Unrhyw fater arall
[edit]Nodwyd bod ymholiad wedi'i dderbyn yn awgrymu'r syniad o greu rhaglen radio ‘Cymry’n Cwrdd’ ar y gymuned Wici yng Nghymru. Roedd pawb yn gytun y byddai hyn yn syniad da.
Bydd cyfarfod yn caeel ei gynnal ddydd Gwener 10 Awst i drafod y geiriaduron Cymraeg, ac y byddai’r Gweinidog yn bresennol ynddo. Dylid cynnwys erthyglau Wicipedia yn CorCenCC ac, wrth drafod y Termiadur, nodwyd bod modd creu label Wikidata sy’n nodi’r Termiadur fel ffynhonnell.
Cyfarfod nesaf
[edit]Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Neuadd y Dref, Llangefni, yn nhymor yr hydref.
Dolenni defnyddiol
[edit]- Wikimedia Community User Group Wales: y prif ddogfen a gyflwynwyd ac a dderbyniwyd ym Mawrth 2018.
- Y drafodaeth wreiddiol yng Nghaffi cywici