Translation requests/WMF/Home/cy
Dychmygwch fyd lle gall pob bod dynol rannu eu holl wybodaeth a hynny'n rhad ac am ddim. Dyna yw ein nod.
Ac mae angen eich cymorth chi arnom. Cefnogwch Sefydliad Wicifryngau os gwelwch yn dda drwy gyfrannu heddiw.
Mae Sefydliad Wicifryngau, Inc. yn sefydliad di-elw elusennol sy'n ymroddedig i annog twf, datblygiad a dosbarthiad cynnwys rhad ac am ddim, aml-ieithog, a darparu cynnwys y prosiectau wici hyn yn eu cyfanrwydd i'r cyhoedd am ddim. Gweithreda'r Sefydliad Wicifryngau rhai o brosiectau golygu cydweithredol mwyaf yn y byd, gan gynnwys Wicipedia, y bedwaredd wefan yr ymwelir a hi fwyaf yn y byd.
Darllenwch am y newyddion a safbwyntiau diweddaraf o Sefydliad Wicifryngau.
See blog posts from the Wikimedia community on Planet Wikimedia. You can also follow us on Twitter or identi.ca.
Cefnogwch ni[edit]Dibynna'r Sefydliad Wicifryngau'n helaeth ar gefnogaeth hael ein defnyddwyr. Ystyriwch wneud cyfraniad heddiw os gwelwch yn dda, boed yn rhoi'ch amser, arian neu galedwedd. Mae'r dudalen cyfranwyr wedi ei neilltuo ar gyfer rhai o'r cwmniau a'r unigolion sy'n cynorthwyo i gynnal prosiectau Wicifryngau. Nid yw Sefydliad Wicifryngau o reidrwydd yn cymeradwyo gweithgareddau'r Cyfranwyr Corfforaethol. Mae Sefydliad Wicifryngau wedi'i gynnwys fel mudiad di-elw 501(c)(3) yn yr Unol Daleithiau, a gellir tynnu treth wrth roddion gan ddinasyddion yr UDA. Mae'n bosib y gellir tynnu treth oddi ar roddion gan ddinasyddion o wledydd eraill hefyd. Gweler tynnu treth o roddion am fanylion os gwelwch yn dda. Gweler ein tudalen codi arian am fanylion am roi rhodd trwy PayPal, MoneyBookers, y post neu gyfraniad uniongyrchol os gwelwch yn dda. ar gyfer unrhyw fath arall o roddion, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. A wyddoch chi?[edit]A wyddoch chi fod "Comin Wicifryngau" yn storfa amlgyfrwng sydd yn cynnal ffeiliau amlgyfrwng 43,000,000? Dyma un o wirfoddolwyr Wicifryngau, Brianna Laugher yn cyflwyno Comin Wicifryngau i chi: Croeso i Gomin Wicifryngau. Sefydliwyd dim ond tair blynedd yn ôl gyda'r gobaith o osgoi uwchlwytho'r un delwedd at 200 wici gwahanol, cychwynodd Comin Wicifryngau fel storfa cyfryngau sydd yn gwneud bywyd yn haws i olygwyr Wicifryngau. Ers hynny, tyfodd i fod yn gymuned amlieithog o bobl sy'n tynnu lluniau, pobl sy'n creu lluniau a delweddau, sganwyr, golygwyr sain, cyfieithwyr, trefnwyr ac anodwyr. Manylion corfforaethol[edit]Bwrdd Ymddiriolaethol Wicifryngau yw prif gorff corfforaethol Wikimedia Foundation Inc., ac mae ganddo'r awdurdod i arwain gweithgarwch y Sefydliad. Gellir gweld is-gyfreithiau'r Wikimedia Foundation bylaws. Gellir gweld polisĭsau eraill y Bwrdd yn polisĭau. Mae'r Sefydliad yn rheoli'r cyllid, sy'n talu am offer cyfrifiadurol a gweinyddu yn bennaf. Mae costau eraill yn cynnwys adnoddau dynol sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal prosiectau Wicifryngau, ef bod y mwyafrif o'r bobl yn wirfoddolwyr. Mae'r safle hwn yn cynnwys cofnodion o gyfarfodydd y Bwrdd. Gellir dod o hyd i benderfyniadau diweddaraf y Bwrdd yn penderfyniadau. |
Tu fewn Wicifryngau[edit]Adroddiad Blynyddol[edit]Datganiadau diweddaraf i'w Wasg[edit]Gweler digwyddiadau cyfoes am fwy o wybodaeth. |
Wikipedia Free encyclopedia |
Wiktionary Dictionary and thesaurus |
Wikinews Free content news source | |||||
Wikibooks Free textbooks and manuals |
Wikiquote Collection of quotations |
Wikisource Free source documents | |||||
Wikiversity Free learning tools |
Wikispecies Directory of species |
Commons Shared media repository |