Jump to content

Cynhadledd y Cwlwm Celtaidd 2024/Galwad am geisiadau

From Meta, a Wikimedia project coordination wiki
This page is a translated version of the page Celtic Knot Conference 2024/Call for submissions and the translation is 86% complete.
Gnodau Celtic
Cyfarfod Ieithoedd Wikimedia
25 Medi 2024-27 Medi 2024
Dinas Waterford, Iwerddon

☘️ Croeso

🗒️ Rhaglen

⏯️ Lineup

🛰️ Achosion ar-lein

Cynnal

💬 Gweithrwch gyda'i gilydd

✒️ Documentation


Galwad am geisiadau

The call for submissions is now closed. You can look at the existing proposals below..

Ffurf

Rydym yn gwahodd ceisiau i'r rhaglen:

  • Sgyrsiau chwap – cyflwyniadau byr 10 munud am unrhyw beth rydych chi'n teimlo sy'n berthnasol.
  • Gweithdai a thiwtorials – sesiynau 50 neu 110 munud ar gyfer trafodaethau a gweithdai grŵp, neu diwtorials ar bwnc penodol fel y Cymhorthydd Cyfieithu neu Wicidata. Mae'r cyfnod hwn yn cynnwys cwestiynau gan y gynulleidfa.
  • Cyflwyniad – cyflwyniadau 20–25 munud. Mae'r cyfnod hwn yn cynnwys cwestiynau gan y gynulleidfa.
  • 'Trafodaeth Panel – trafodaeth banel 50 munud i drafod pwnc neilltuol. Croeso i chi gydweithio ag eraill i roi panel at ei gilydd. Mae'r cyfnod hwn yn cynnwys cwestiynau gan y gynulleidfa.
  • Posteri – Bydd y rhain yn cael eu hargraffu ar ffurf A0 (84.1 x 118.9) a'u harddangos yn y gynhadledd gyda sesiwn boster bwrpasol.

Themau

Rydym yn annog cynigion i gysylltu â themâu'r gynhadledd:

Siwrne Trwy ein Hetifeddiaeth: Olrhain Gwreiddiau Wicimedia Celtaidd
  • Darganfyddwch fwy am etifeddiaeth arloeswyr Wicimedia, gan ymchwilio i'r mewnwelediadau a'r profiadau sy'n rhoi lliw ar ein hymdrechion presennol. Rydym yn gwahodd cyflwyniadau sy'n archwilio sylfeini hanesyddol prosiectau Wicimedia, gan rannu straeon a gwersi a ddysgwyd o'r gorffennol i helpu i lunio ein dyfodol.
Momentwm a Ryddhawyd: Goresgyn Rhwystrau, Cynnau Fflam Cynnydd..
  • Darganfyddwch fentrau cyfoes y Wicimedia Celtaidd wrth i ni wynebu rhwystrau a symud ymlaen gyda'n gilydd tuag at ein nodau.
  • Ymunwch â ni wrth i Gymuned Wicimedia Iwerddon lansio'r pecynnau cymorth a ddatblygwyd drwy'r Prosiect Erasmus+ WikiWomen sy'n grymuso myfyrwyr i ymchwilio, i ysgrifennu ac i rannu bywgraffiadau o fenywod ac unigolion sydd a rhywedd gwahanol, trwy eu hieithoedd rhanbarthol priodol.
  • Croesawn cgeisiadau sy'n tynnu sylw at strategaethau arloesol, amlygu llwyddiant, a heriau a orchfygwyd wrth hyrwyddo prosiectau'r ieithoedd Celtaidd o fewn cymuned Wicimedia.
Mordwyo ein Gweledigaethau: Creu Llwybrau mewn Eiriolaeth Iaith
  • Ffurfio llwybrau mewn eiriolaeth a iaith o fewn cymunedau Wici wrth i ni gyda'n gilydd fordwyo drwy weledigaeth gyffredin er mwyn hyrwyddo a chadw ieithoedd Celtaidd o fewn cefnfor Wicimedia.
  • Rydym yn chwilio am geisiadau / cyflwyniadau sy'n archwilio'r arferion gorau, canfyddiadau ymchwil, a mewnwelediadau strategol gyda'r nod o gryfhau cymunedau'r ieithoedd Geltaidd (mewn mannau ffisegol a digidol), darparu adnoddau Mynediad Agored, ac eiriol dros amlygu'r rhain a'u hawliau ar Brosiectau Wicimedia.

Amodau

Ein blaenoriaeth yw cefnogi cyflwyniadau pobl yn y cnawd, nid ar-lein. Mae ysgoloriaethau ar gael i gefnogi hyn.

Trwy gyflwyno cynnig, rhaid i chi gytuno y bydd crynodeb ohono ac unrhyw sleidiau sy'n gysylltiedig ag ef yn cael eu rhyddhau o dan Drwydded CC-BT-SA 4.0; ac os caiff y cynnig ei dderbyn, bydd y sesiwn yn cael ei darlledu a/neu ei recordio a'i darparu ar ffurf sain a/neu fideo ar yr un drwydded.

Sut i wneud cais

The call for submissions is now closed. You can look at the existing proposals below..

Os cewch unrhyw broblemau gyda'ch cais neu os oes gennych gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Richard Nevell (WMUK) (richard.nevell(_AT_)wikimedia.org.uk).

Existing proposals

You can find all the proposals below, or in the category All Celtic Knot 2024 submissions.